YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1:4-8

Marc 1:4-8 DAFIS

A fel 'na ddâth Ioan i silw dinion. Wedd‐e mas miwn lle diffeth in bediddio, a wedd‐e'n prigethu ddile dinion ddifaru, câl u bididdio, a wedyn câl madde u pechode. A âth pob wan jac we'n byw in gwlad Jiwdea, fel i dinion i gyd we'n byw in Jeriwsalem, mas ato fe fan‐'ny. A fel wedd‐e'n u bididdio nhwy in afon Iorddonen wên‐nhwy'n cifadde beth we'u pechode nhwy. We Ioan in gwishgo dillad wedi neud mas o flew camel a we belt leder 'dag e am i ganol, a locustied a mêl gwyllt we'i fwyd e. A co beth we Ioan in prigethu: “Ma rhiwun in dwâd ar in ôl i, rhiwun sy'n grifach na fi. Sena‐i'n ddyn digon da i ddatod lasys i sgidje fe hyd 'n‐ôd. Bididdies i chi 'da dŵr, on bydd e'n ich bididdio chi 'da'r Isbryd Glân.”