YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1:21-28

Marc 1:21-28 DAFIS

Ethon‐nhwy hys Capernaum. A dy' Saboth âth Iesu miwn i'r sinagog a dachre disgu. We dinion in sinnu at beth wedd‐e'n ddisgu achos wedd‐e'n disgu fel rhiwun â comands 'dag e, a ddim fel i rhei we'n arfer disgu'r Gifreth. In u sinagog nhwy we dyn ag isbryd drwg indo fe. Gweiddodd ir isbryd 'ny mas in uchel, “Be ti moyn neud i ni, Iesu o Nasareth? Wit‐ti 'di dwâd i'n pennu ni bant? Dwi'n gwbod pwy wit‐ti — ti yw Un Sanctedd Duw.” Ond wedo Iesu wrtho fe'n blaen: “By dawel! Dere mas ono fe!” Shiglodd ir isbryd drwg i dyn o'i ben i'w drâd e, a wrth ir isbryd weiddi'n uchel fe ddâth e mas o'r dyn. Gas bob un u sinnu shwt gwmint fel dachreuon‐nhwy holi'i gily, “Beth yw hyn? Co ddisgeidieth newy ma rhaid i marco hi! Ma hwn hyd 'n‐ôd in rhoi ordors i'r isbridion drwg a man‐nhwy'n grondo arno fe!” A whap âth ir hanes amdano fe trw Galilea pentigily.