YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1:16-20

Marc 1:16-20 DAFIS

A fel we Iesu'n cered ar bwys Llyn Galilea gwelodd‐e Seimon a'i frawd e, Andreas, in towlu rhwydi i'r dŵr — achos pisgota we'u gwaith nhwy chi'n gweld. A wedo Iesu wrthon nhwy, “Dewch ar in ôl i a fe 'na i chi'n rhei sy'n pisgota ar ôl dinion.” A gadon‐nhwy u rhwydi ar unweth a'i ddilyn e. Wedi 'ddo fynd in i flân tamed bach gwelodd‐e Iago crwt Sebedeus a'i frawd e, Ioan; wên‐nhwy wrthi'n helpu'r rhwydi in i cwch. Galwodd‐e arnon nhwy i ddwâd ar i ôl e fyd. A tima nhwy'n gadel u tad Sebedeus fan‐'ny, in i cwch 'da'r gweishon, a mynd bant a dilyn Iesu.