YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1:9-15

Marc 1:9-15 DAFIS

A 'na'r amser ddâth Iesu, o Nasareth in Galilea, a bididdiodd Ioan e in afon Iorddonen. A wrth'o ddwâd lan o'r dŵr gwelodd‐e'r nefodd in hollti'n agor a'r Isbryd, fel colomen, in dishgyn arno. A dâth llaish o'r nefodd in gweud: “Ti yw'n unig Grwt i, ing Grwt annwil i, a wit‐ti wrth in fodd i.” Whap ar ôl 'ny halodd ir Isbryd Iesu mas i le diffeth am ddeugen dwarnod. A fan'ny buodd Satan in i demto fe. A na lle wedd‐e in ganol i creduried gwyllt, a we'r angilion in drich ar i ôl e. Wedi i Ioan gâl i aresto a'i roi in i shâl dâth Iesu i Galilea in prigethu ifingyl Duw. “Ma'r amser wedi dwâd” medde fe “a ma teyrnas Duw ar in pwys ni. Rhaid i chi ddifaru a credu bo'r ifingyl in wir.”