YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 28:11-15

Mathew 28:11-15 DAFIS

Fel wen nhwy'n mynd, âth rhei'r o'r gârd miwn i'r ddinas a gweu'th i pen-ffeiradon bopeth we wedi digwydd. Wedi i'r ffeiradon a'r heneduried ddwâd at 'i gily, nethon nhwy feddwl am ffordd o roi lot o arian i'r sowldwrs, a gweu'thyn nhwy, “Rhaid ichi weud, 'Dâth i rhei we'n 'i ddilyn wedi'ddi nosi a'i ddwgid e pan wen ni'n cisgu.’ Achos os cliwith i gwfner am hyn, bydd hyn in ddigon i gau 'i ben e, a'n cadw ni mas o drwbwl”. So cwrmon nhwy'r arian a neud fel gethon nwy ordors i neud. A ma rhei in gweud i stori hon in plith ir Iddewon hys i dydd heddi.