YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 21:15-17

Ioan 21:15-17 BWMG1588

Ac wedi iddynt giniâwa, Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon [Mab] Iona, a wyt ti yn fyng-haru i, yn fwy nag y [mae] y rhai hyn? efe a ddywedodd, ydwyf, Arglwydd: ti a ŵyddost y caraf di: yna y dywedodd wrtho, portha fy ŵyn. Ac efe a ddywedodd wrtho eil-waith, Simon [Mab] Iona, a wyt ti yn fyng-haru i? yntef a ddywedodd wrtho, ydwyf Arglwydd, ti a ŵyddost fy môd yn dy garu: efe a ddywedodd wrtho, portha fy nefaid. Ac efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon [Mab] Iona, a wyt ti yn fyngharu i? [a] Phetr a dristâodd, am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, a wyt ti yn fyngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho: Arglwydd ti a ŵyddost bob peth, ti a ŵyddost y caraf di, Iesu a ddywedodd wrtho: portha fy nefaid.

Video for Ioan 21:15-17