YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 6:16-18

Mathew 6:16-18 BWM1955C

Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben, a golch dy wyneb; Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.