Exodus 27:20-21
Exodus 27:20-21 BWM1955C
A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad. Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, gerbron yr ARGLWYDD: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.