YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 16:25-27

Rhufeiniaid 16:25-27 BNET

Clod i Dduw, sy’n gallu’ch gwneud chi’n gryf drwy’r newyddion da sydd gen i – sef y neges sy’n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae’r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd, ond bellach mae wedi’i ddwyn i’r golwg. Fel mae’r ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol – mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a byw’n ufudd iddo. O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen!