YouVersion Logo
Search Icon

Salm 112

112
Y fendith sydd i’r person duwiol
1Haleliwia!
Mae bendith fawr i’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD
ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae’n ei ddweud.
2Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus,
cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio.
3Bydd e’n gyfoethog,
a bob amser yn byw’n gywir.
4Mae golau’n disgleirio yn y tywyllwch i’r duwiol;
y sawl sy’n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy’n iawn.
5Mae pethau’n mynd yn dda i’r un sy’n hael wrth fenthyg
ac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.
6Fydd dim byd yn tarfu arno;
bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw’n gywir.
7Does ganddo ddim ofn newyddion drwg;
mae e’n trystio’r ARGLWYDD yn llwyr.
8Mae e’n dawel ei feddwl, ac yn ofni dim;
mae’n disgwyl gweld ei elynion yn syrthio yn y diwedd.
9Mae e’n rhannu ac yn rhoi yn hael i’r tlodion;
bydd pobl yn cofio’i haelioni bob amser.
Bydd yn llwyddo ac yn cael ei anrhydeddu.
10Bydd pobl ddrwg yn gwylltio pan welan nhw hyn.
Byddan nhw’n ysgyrnygu eu dannedd, ac yn colli pob hyder,
am fod eu gobeithion nhw wedi diflannu.

Currently Selected:

Salm 112: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy