YouVersion Logo
Search Icon

Philipiaid 4

4
1Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i’n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi’n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati – arhoswch yn ffyddlon i’r Arglwydd.
Anogaethau
2Dw i’n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. 3A dw i’n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
4Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen! 5Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan. 6Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. 7Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
8Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy’n wir ac i’w edmygu – am beth sy’n iawn i’w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy’n haeddu ei ganmol. 9Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi’u dysgu a’u gweld a’u clywed gen i. A bydd y Duw sy’n rhoi ei heddwch gyda chi.
Diolch am eu rhodd
10Rôn i mor llawen, ac yn diolch i’r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i’n gwybod mai felly roeddech chi’n teimlo drwy’r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny. 11Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy’n digwydd i mi. 12Dw i’n gwybod sut mae byw pan dw i’n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu’r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy’r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i’n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim. 13Dw i’n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi’r nerth i mi wneud hynny.
14Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau’n anodd. 15Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi’r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi’n gwybod hynny’n iawn. 16Hyd yn oed pan oeddwn i yn Thesalonica, dyma chi’n anfon rhodd ata i sawl tro. 17A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i. 18Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae’r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli’n hyfryd, ac yn aberth sy’n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.#gw. Genesis 8:21; Exodus 29:18,25,41; Lefiticus 1:9,13,17 19Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i’w rannu gyda ni sy’n perthyn i’r Meseia Iesu.
20Felly, bydded i Dduw a’n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!
Cyfarchion i gloi
21Cofiwch fi at bob un o’r Cristnogion acw. Mae’r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. 22Ac mae’r Cristnogion eraill i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi hefyd – yn arbennig y rhai hynny sy’n gweithio ym mhalas Cesar.
23Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.

Currently Selected:

Philipiaid 4: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy