YouVersion Logo
Search Icon

Obadeia 1

1
1Gweledigaeth Obadeia.
Dyma beth mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi’i ddweud am Edom.#1:1 Edom Roedd pobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i’r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”
Bydd Duw yn cosbi Edom#Eseia 34:5-17; 63:1-6; Jeremeia 49:7-22; Eseciel 25:12-14; 35:1-15; Amos 1:11-12; Malachi 1:2-4
2Mae’r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom:#1:2 Mae’r … Edom Ddim yn yr Hebraeg, ond wedi’u hychwanegu i wneud y sefyllfa’n glir (gw. diwedd adn. 4).
“Dw i’n mynd i dy wneud di’n wlad fach wan;
byddan nhw’n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
3Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!
Ti’n byw yn saff yng nghysgod y graig,
ac mae dy gartref mor uchel nes dy fod yn meddwl,
‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o’r fan yma!’#1:3 Ti’n byw yn saff … o’r fan yma! Roedd Sela, prifddinas Edom wedi’i hadeiladu ar lwyfandir uchel Wm el-Biara, gyda clogwyni serth ar dair ochr iddi.
4Ond hyd yn oed petaet ti’n gallu codi mor uchel â’r eryr,
a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,
bydda i’n dy dynnu di i lawr!”#Jeremeia 49:14-16
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
5“Petai lladron yn dod atat ti,
neu ysbeilwyr yn y nos,
fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!
Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw’n gadael rhywbeth i’w loffa?#Jeremeia 49:9; Deuteronomium 24:19-22
Ond byddi di’n cael dy ddinistrio’n llwyr!
6Bydd pobl Esau#1:6 pobl Esau Disgynyddion Esau (brawd Jacob) oedd pobl Edom – gw. Genesis 36:1,8,19. yn colli popeth;
bydd y trysorau gasglon nhw wedi’u dwyn!
7Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;
cei dy yrru at dy ffiniau.
Mae dy ‘helpwyr’ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,
a’r ‘ffrindiau’ oedd yn gwledda gyda ti
wedi gosod trap heb i ti wybod.”
8“Bryd hynny” meddai’r ARGLWYDD,
“bydda i’n difa rhai doeth Edom,
a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
9Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;#1:9 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi’i henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11.
fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.
Y drwg wnaeth Edom
O achos y lladdfa, 10a’th drais yn erbyn Jacob dy frawd,#1:10 Jacob Cyfeiriad at bobl Israel – gw. Genesis 25–29; 32–33; Deuteronomium 23:7.
bydd cywilydd yn dy orchuddio,
a byddi’n cael dy ddinistrio am byth.
11Pan oeddet ti’n sefyll o’r neilltu
tra oedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;
pan oedd byddin estron yn mynd drwy ei giatiau
a gamblo am gyfoeth Jerwsalem,
doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!#1:11 un ohonyn nhw sef byddin Babilon pan wnaethon nhw goncro Jerwsalem yn 587 cc.
12Sut allet ti syllu a mwynhau’r
drychineb ddaeth i ran dy frawd?
Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda
ar ddiwrnod eu difa?#Salm 137:7
Sut allet ti chwerthin
ar ddiwrnod y dioddef?
13Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl
ar ddiwrnod eu trychineb?
Syllu a mwynhau eu trallod
ar ddiwrnod eu trychineb.
Sut allet ti ddwyn eu heiddo
ar ddiwrnod eu trychineb?
14Sut allet ti sefyll ar y groesffordd
ac ymosod ar y ffoaduriaid!
Sut allet ti eu rhoi yn llaw’r gelyn
ar ddiwrnod y dioddef?
Barn Duw a buddugoliaeth Israel
15Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos,
a bydda i’n barnu’r cenhedloedd i gyd.
Byddi’n diodde beth wnest ti i eraill;#Lefiticus 24:20; Deuteronomium 19:21
cei dy dalu’n ôl am beth gafodd ei wneud.
16Fel y gwnaethoch chi yfed
ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi,
bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed –
yfed nes byddan nhw’n chwil.#Salm 75:8; Eseia 51:22-23; Galarnad 4:21
Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli.
17Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc
– bydd yn lle cysegredig eto.
Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl
oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.
18Teulu Jacob#1:18 teulu Jacob sef, pobl Jwda. fydd y tân,
a theulu Joseff#1:18 teulu Joseff sef, pobl Israel. fydd y fflamau,
a theulu Esau fydd y bonion gwellt!
Byddan nhw’n eu llosgi a’u difa,
a fydd neb o deulu Esau ar ôl.”
–mae’r ARGLWYDD wedi dweud.
19Byddan nhw’n cipio’r Negef oddi ar bobl mynydd Esau,
a Seffela#1:19 Seffela Yr iseldir wrth droed y bryniau ar ffin orllewinol Jwda. oddi ar y Philistiaid.
Byddan nhw’n ennill yn ôl dir Effraim
a’r ardal o gwmpas Samaria,
a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead.#1:19 Gilead Yr ardal i’r dwyrain o afon Iorddonen. Felly mae adn. 19 yn sôn am bobl Dduw yn Jerwsalem yn ennill yn ôl diriogaeth i’r de (Edom), gorllewin (Philistia), gogledd (Effraim) a dwyrain (Gilead).
20Bydd byddin o bobl Israel o’r gaethglud
yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath;#1:20 Sareffath Tref ar arfordir Môr y Canoldir, tua 10 milltir i’r de o Sidon.
a phobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell
yn meddiannu pentrefi’r Negef.
21Bydd y rhai gafodd eu hachub
yn mynd i Fynydd Seion
ac yn rheoli Edom –
a’r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu.

Currently Selected:

Obadeia 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in