YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 8

8
1a dod at ei gilydd yn Jerwsalem yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr. Dyma nhw’n gofyn i Esra’r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi’i roi i bobl Israel. 2Felly ar ddiwrnod cynta’r seithfed mis dyma Esra’r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i’r gynulleidfa oedd yno – yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. 3Bu’n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o’r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando’n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud.
4Roedd Esra’n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi’i godi’n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith.
5Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma’r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. 6Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma’r bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a chodi eu dwylo. Yna dyma nhw’n plygu’n isel i addoli’r ARGLWYDD, a’i hwynebau ar lawr.
7Tra oedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu’r Gyfraith iddyn nhw – Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamîn, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. 8Roedden nhw’n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen.
9Roedd y bobl wedi dechrau crio wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid oedd yn rhoi’r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw’n ddiwrnod wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrio. 10Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gyda’r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw’n ddiwrnod wedi’i gysegru i’r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy’n rhoi nerth i chi!”
11Yna dyma’r Lefiaid yn tawelu’r bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grio. Mae heddiw’n ddiwrnod cysegredig.” 12Felly dyma’r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw’n llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.
Yr ail ddiwrnod
13Yna’r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a’r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud. 14A dyma nhw’n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis.#Lefiticus 23:42 15Roedden nhw i fod i gyhoeddi’r neges yma drwy’r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i’r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godi’r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi’i ysgrifennu yn y Gyfraith.”#Lefiticus 23:40
16Felly dyma’r bobl yn mynd allan a dod â’r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw’u hunain – ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim. 17Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o’r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu’n llawen. 18Dyma Esra yn darllen o Lyfr Cyfraith Duw bob dydd,#Deuteronomium 31:11 o ddechrau’r Ŵyl i’w diwedd. Dyma nhw’n cadw’r Ŵyl am saith diwrnod, ac yna yn ôl y drefn dod at ei gilydd i addoli eto.

Currently Selected:

Nehemeia 8: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in