Marc 8
8
Iesu’n bwydo’r pedair mil
(Mathew 15:32-39)
1Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o’i gwmpas tua’r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu’n galw’i ddisgyblion ato a dweud, 2“Dw i’n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i’w fwyta. 3Os anfona i nhw adre’n llwgu byddan nhw’n llewygu ar y ffordd. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.”
4Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!”
5Gofynnodd Iesu, “Sawl torth o fara#8:5 torth o fara: gw. y nodyn ar 6:38. sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw.
6Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a’u rhoi i’w ddisgyblion i’w rhannu i’r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion. 7Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda’r rheiny. 8Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. 9Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd, 10aeth i mewn i’r cwch gyda’i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha.
Hawlio arwydd
(Mathew 12:38-42; 16:1-4)
11Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw. 12Ochneidiodd Iesu’n ddwfn, a dweud: “Pam mae’r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai’n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!” 13Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i’r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea.
Burum y Phariseaid a Herod
(Mathew 16:5-12)
14Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch. 15Dyma Iesu’n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, a burum Herod#8:15 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr. hefyd.” 16Wrth drafod y peth dyma’r disgyblion yn dod i’r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e.
17Roedd Iesu’n gwybod beth roedden nhw’n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi’n poeni eich bod heb fara? Ydych chi’n dal ddim yn deall? Pryd dych chi’n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi’n ystyfnig? 18Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi’n cofio dim byd? 19Pan o’n i’n rhannu’r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw.
20“A phan o’n i’n rhannu’r saith torth i’r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw.
21“Ydych chi’n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw.
Iacháu dyn dall yn Bethsaida
22Dyma nhw’n cyrraedd Bethsaida, a dyma rhyw bobl yn dod â dyn dall at Iesu a gofyn iddo ei gyffwrdd. 23Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a’i arwain allan o’r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti’n gweld o gwbl?”
24Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i’n gweld pobl; ond maen nhw’n edrych fel coed yn symud o gwmpas.”
25Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir. 26Dyma Iesu’n ei anfon adre, a dweud wrtho, “Paid mynd i mewn i’r pentref.”
Datganiad Pedr
(Mathew 16:13-20; Luc 9:18-21)
27Aeth Iesu a’i ddisgyblion yn eu blaenau i’r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?”
28Dyma nhw’n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto’n dweud mai un o’r proffwydi wyt ti.”
29“Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy’r Meseia.”
30Yna dyma Iesu’n eu rhybuddio nhw i beidio dweud hynny wrth neb.
Iesu’n dweud ei fod yn mynd i farw
(Mathew 16:21-28; Luc 9:22-27)
31Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai’r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai’n cael ei ladd, ond yna’n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. 32Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i’r naill ochr a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau.
33Ond trodd Iesu i edrych ar ei ddisgyblion, ac yna dweud y drefn wrth Pedr o’u blaenau nhw. “Dos o’m golwg i Satan!” meddai. “Rwyt ti’n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw’n eu gweld nhw.”
34Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda’i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill#8:34 aberthu eu hunain dros eraill: Groeg, “godi eu croes”. a cherdded yr un llwybr â mi. 35Bydd y rhai sy’n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a’r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn. 36Beth ydy’r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i’w gynnig, a cholli’r enaid? 37Oes gynnoch chi unrhyw beth sy’n fwy gwerthfawr na’r enaid? 38Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i’n ddweud yn yr oes ddi-gred a phechadurus yma, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i’n dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a’r angylion sanctaidd gyda mi.”
Currently Selected:
Marc 8: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023