YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 9

9
Iesu’n iacháu dyn wedi’i barlysu
(Marc 2:1-12; Luc 5:17-26)
1Dyma Iesu’n mynd i mewn i gwch a chroesi’r llyn yn ôl i’w dref ei hun.#9:1 i’w dref ei hun: Capernaum (gw. 4:13). 2A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi’i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi’u maddau.”
3Roedd rhai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae’r dyn yma’n cablu!”
4Ond roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, ac meddai, “Pam dych chi’n meddwl yn ddrwg amdana i? 5Ydy’n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? 6Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.” 7Yna cododd y dyn ar ei draed ac aeth adre. 8Roedd y dyrfa wedi dychryn,#9:8 wedi dychryn: Yn ôl rhai llawysgrifau wedi’u syfrdanu. ac yn moli Duw, am iddo roi’r fath awdurdod i ddyn.
Galw Mathew
(Marc 2:13-17; Luc 5:27-32)
9Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o’r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl.
10Yn nes ymlaen aeth Iesu a’i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o’r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain i’r parti, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‘bechaduriaid’. 11Wrth weld hyn, dyma’r Phariseaid yn gofyn i’w ddisgyblion, “Pam mae eich athro yn bwyta gyda’r bradwyr sy’n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy’n ddim byd ond ‘pechaduriaid’?”
12Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. 13Mae’n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’#Hosea 6:6 (gw. hefyd Mathew 12:7) Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Holi Iesu ynglŷn ag ymprydio
(Marc 2:18-22; Luc 5:33-39)
14Dyma ddisgyblion Ioan yn dod at Iesu a gofyn iddo, “Dŷn ni a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”
15Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda’r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw’n ymprydio bryd hynny.
16“Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai’r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth. 17A dydy gwin sydd heb aeddfedu ddim yn cael ei dywallt i hen boteli crwyn. Wrth i’r gwin aeddfedu byddai’r crwyn yn byrstio ac yn difetha, a’r gwin yn cael ei golli. Na, rhaid tywallt y gwin i boteli crwyn newydd, a bydd y poteli a’r gwin yn cael ei gadw.”
Merch fach wedi marw a gwraig oedd â gwaedlif
(Marc 5:21-43; Luc 8:40-56)
18Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o’r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o’i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.” 19Cododd Iesu a mynd gyda’r dyn, ac aeth y disgyblion hefyd.
20Dyna pryd y daeth rhyw wraig oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd a sleifio i fyny y tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn. 21Roedd yn meddwl, “Petawn i ond yn llwyddo i gyffwrdd ei glogyn ca i fy iacháu.”
22Trodd Iesu a’i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, ferch annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” A’r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu.
23Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ’r dyn, roedd tyrfa swnllyd o bobl yn galaru, a rhai yn canu pibau. 24“Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy’r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, 25ond dyma Iesu’n anfon y dyrfa allan o’r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed. 26Aeth yr hanes am hyn ar led drwy’r ardal i gyd.
Iesu’n iacháu dau ddyn dall a dyn mud
27Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi’n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!”#9:27 Fab Dafydd: Un o deitlau y Meseia. Roedd yr Iddewon yn credu y byddai’r Meseia yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd.
28Ar ôl mynd i mewn i’r tŷ, dyma’r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi’n credu go iawn y galla i wneud hyn?”
“Ydyn, Arglwydd,” medden nhw. 29Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi’i gredu sy’n bosib,” 30ac roedden nhw’n gallu gweld eto. Dyma Iesu’n eu rhybuddio’n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.” 31Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw’n dweud wrth bawb drwy’r ardal i gyd amdano.
32Wrth iddyn nhw adael, dyma rhyw bobl yn dod â dyn at Iesu oedd yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. 33Pan gafodd y cythraul ei fwrw allan ohono, dyma’r dyn yn dechrau siarad. Roedd y dyrfa wedi’i syfrdanu, a phobl yn dweud, “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o’r blaen.”
34Ond roedd y Phariseaid yn dweud, “Tywysog y cythreuliaid sy’n rhoi’r gallu iddo wneud hyn.”
Gweithwyr yn brin
35Roedd Iesu’n teithio o gwmpas yr holl drefi a’r pentrefi yn dysgu’r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch. 36Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i’r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth. 37Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! 38Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd.”

Currently Selected:

Mathew 9: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in