YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 3

3
Ioan Fedyddiwr yn paratoi’r ffordd
(Marc 1:1-8; Luc 3:1-18; Ioan 1:19-28)
1Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea. 2Dyma’r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.” 3Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano:
“Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch,
‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod!
Gwnewch y llwybrau’n syth iddo!’” # Eseia 40:3 (LXX)
4Roedd dillad Ioan wedi’u gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.#2 Brenhinoedd 1:8
5Roedd pobl o Jerwsalem a phobman arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato. 6Pan oedden nhw’n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.
7Dyma rai o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi’ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy’n mynd i ddod? 8Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi’n byw eich bod chi wedi newid go iawn. 9A pheidiwch meddwl eich bod chi’n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy’n tad ni.’ Gallai Duw droi’r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!#Ioan 8:33 10Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri’r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân!#Mathew 7:19
11“Dŵr dw i’n ei ddefnyddio i’ch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chi’n troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda’r Ysbryd Glân a gyda thân. 12Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu’r grawn a’r us. Bydd yn clirio’r llawr dyrnu, yn casglu ei wenith i’r ysgubor ac yn llosgi’r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
Iesu’n cael ei fedyddio
(Marc 1:9-11; Luc 3:21,22)
13Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan. 14Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti’n dod ata i?”
15Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i’n ei ofyn; dyma sy’n iawn i’w wneud.” Felly cytunodd Ioan i’w fedyddio.
16Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o’r dŵr, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. 17A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.”

Currently Selected:

Mathew 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in