Mathew 22
22
Stori y wledd briodas
(Luc 14:15-24)
1Dyma Iesu’n dweud stori arall wrthyn nhw: 2“Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i’w fab. 3Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw’n gwrthod dod.
4“Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae’r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i’r wledd!’
5“Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd – un i’w faes, ac un arall i’w fusnes. 6Yna dyma’r gweddill yn gafael yn y gweision a’u cam-drin nhw a’u lladd. 7Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref.
8“Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod. 9Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy’n mynd allan o’r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i’r wledd.’ 10Felly dyma’r gweision yn mynd allan i’r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a’r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion.
11“Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim yn gwisgo dillad addas i briodas. 12‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai’r dyn ddim ateb.
13“Yna dyma’r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a’i draed, a’i daflu allan i’r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.’
14“Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy’n cael eu dewis.”
Talu trethi i Cesar
(Marc 12:13-17; Luc 20:20-26)
15Dyma’r Phariseaid yn mynd allan a chynllwynio sut i’w gornelu a’i gael i ddweud rhywbeth fyddai’n ei gael i drwbwl. 16Dyma nhw’n anfon rhai o’u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod.#22:16 o gefnogwyr Herod: Y rhai oedd eisiau i Herod Antipas (gw. 14:1), mab Herod Fawr (gw. 2:1) fod yn frenin yn Jerwsalem. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni’n gwybod dy fod ti’n onest a wir yn dysgu ffordd Duw. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. 17Felly, beth ydy dy farn di? Ydy’n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
18Ond roedd Iesu’n gwybod mai drwg oedden nhw’n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi’n ceisio nal i? 19Dangoswch i mi ddarn arian sy’n cael ei ddefnyddio i dalu’r dreth.” Dyma nhw’n dod â darn arian iddo, 20a dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae’r arysgrif yma’n sôn?”
21“Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.”
22Roedden nhw wedi’u syfrdanu pan glywon nhw ei ateb, a dyma nhw’n mynd i ffwrdd.
Priodas a’r Atgyfodiad
(Marc 12:18-27; Luc 20:27-40)
23Yr un diwrnod dyma rhai o’r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Nhw oedd yn dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw. 24“Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i’w frawd briodi’r weddw a chael plant yn ei le.’”#Deuteronomium 25:5
25“Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant. 26A digwyddodd yr un peth i’r ail a’r trydydd, reit i lawr i’r seithfed. 27Y wraig ei hun oedd yr olaf i farw. 28Dyma’n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o’r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!”
29Atebodd Iesu, “Dych chi’n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi’n gwybod dim byd am allu Duw. 30Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw’r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â’r angylion yn y nefoedd. 31A bydd yna atgyfodiad! Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? – 32‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’#Exodus 3:6 Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw’r rhai sy’n fyw!”
33Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu’n ei ddysgu.
Y Gorchymyn Pwysica
(Marc 12:28-34; Luc 10:25-28)
34Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd. 35Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu: 36“Athro, Pa un o’r gorchmynion yn y Gyfraith ydy’r pwysica?”
37Atebodd Iesu: “‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.’#Deuteronomium 6:5 38Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysica. 39Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’#Lefiticus 19:18 40Mae’r cwbl sydd yn y Gyfraith a’r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.”
Mab pwy ydy’r Meseia?
(Marc 12:35-37; Luc 20:41-44)
41Tra oedd y Phariseaid yno gyda’i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw, 42“Beth ydy’ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?”
“Mab Dafydd,”#22:42 Mab Dafydd: gw. y nodyn ar 9:27. medden nhw.
43A dyma Iesu’n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw’n ‘Arglwydd’? Achos mae’n dweud,
44 ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, # 22:44 yn y sedd anrhydedd : Groeg, “ar yr ochr dde i mi”.
nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ #
Salm 110:1
45Os ydy Dafydd yn ei alw’n ‘Arglwydd’, sut mae’n gallu bod yn fab iddo?”
46Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Currently Selected:
Mathew 22: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023