Josua 20
20
Trefi Lloches
(Numeri 35:9-15; Deuteronomium 19:1-13)
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: 2“Dwed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw. 3Bydd unrhyw un sy’n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial. 4Dylai’r un sydd wedi lladd rhywun drwy ddamwain, ddianc i un ohonyn nhw, a mynd i’r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i’r arweinwyr yno. Yna byddan nhw’n gadael iddo fynd i mewn i’r dref i fyw. 5A phan fydd y perthynas sydd â’r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd. 6Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos, a’r un sy’n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i’r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.”
7Felly dyma nhw’n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali; Sichem ym mryniau Effraim; a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda.
8Ac i’r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw’n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben; Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad; a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse.
9Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a’r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â’r hawl i ddial, hyd nes i’w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.
Currently Selected:
Josua 20: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023