YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 31:33-34

Jeremeia 31:33-34 BNET

Dyma’r ymrwymiad fydda i’n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD: “Bydda i’n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a’r arweinwyr, am fy mod i’n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o’i le, ac yn anghofio’u pechodau am byth.”