YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 12:5-6

Barnwyr 12:5-6 BNET

Roedd dynion Gilead wedi dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti’n perthyn i lwyth Effraim?” Petai’n ateb, “Na,” bydden nhw’n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw’n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw a’u lladd nhw yn y fan a’r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.

Free Reading Plans and Devotionals related to Barnwyr 12:5-6