YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 56:6-7

Eseia 56:6-7 BNET

Ac i’r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo – pawb sy’n cadw’r Saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy’n glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i – Bydda i’n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu’n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i’w llosgi ac aberthau i’w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd.”