YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 31

31
Peidiwch trystio’r Aifft
1Gwae’r rhai sy’n mynd i lawr i’r Aifft am help,
a’u ffydd mewn ceffylau rhyfel:
y rhai sy’n dibynnu ar eu holl gerbydau
a’u nifer fawr o farchogion,
yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israel
a gofyn am help yr ARGLWYDD.#Salm 20:7
2Ond mae e hefyd yn ddoeth!
Mae e’n dod â thrwbwl,
a dydy e ddim yn torri ei air.
Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwg
a’r rhai sy’n ei helpu i bechu.
3Pobl feidrol ydy’r Eifftiaid, nid Duw,
a’u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd!
Pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law,
bydd yr helpwr yn baglu
a’r un sy’n cael ei help yn syrthio –
bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda’i gilydd!
4Dyma mae’r ARGLWYDD wedi’i ddweud wrtho i:
Fel mae llew, neu lew ifanc,
yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth,
a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn
criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl;
dyna sut bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn dod i lawr
i ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.
5Fel mae adar yn hofran yn yr awyr,
bydd yr ARGLWYDD hollbwerus
yn amddiffyn Jerwsalem.
Bydd yn ei hamddiffyn a’i hachub,
yn ei harbed a’i rhyddhau.
6Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn. 7Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.
8“Bydd Asyria’n cael ei difa,
ond nid gan gleddyf dynol;
cleddyf Duw fydd yn eu taro.
Byddan nhw’n ffoi rhag y cleddyf,
ond bydd eu milwyr gorau’n gaethweision.
9Bydd eu ‘craig’ yn diflannu mewn dychryn,
a’u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.”
Dyna mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud –
yr un sydd â’i dân yn Seion,
a’i ffwrnais yn Jerwsalem.

Currently Selected:

Eseia 31: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in