YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 3

3
Barn ar Jerwsalem a Jwda
1Edrychwch!
Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus
yn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwda
bopeth sy’n eu cynnal a’u cadw nhw:
bwyd a dŵr,
2arwyr a milwyr dewr;
barnwr a phroffwyd,
yr un sy’n dewino a’r arweinydd;
3grŵp-gapten a swyddog,
strategydd a hudwr medrus,
a’r un sy’n sibrwd swynau.
4Bydda i’n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,
a bwlis creulon i’w rheoli nhw.
5Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –
un yn erbyn y llall.
Bydd pobl ifanc yn ymosod ar hen bobl,
a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
6Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaill
yn nhŷ ei dad, a dweud:
“Mae gen ti gôt –
bydd di’n feistr arnon ni.
Cei di wneud rhywbeth o’r llanast yma,”
7Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud,
“Alla i ddim gwella’ch briwiau chi;
does gen i ddim bwyd yn y tŷ
a does gen i ddim côt chwaith.
Peidiwch gwneud fi’n feistr arnoch chi!”
8Mae Jerwsalem yn gwegian,
a Jwda wedi syrthio,
am ddweud a gwneud pethau
yn erbyn yr ARGLWYDD,
a herio’i fawredd.
9Mae eu ffafriaeth wrth farnu#Deuteronomium 1:17; 16:19; Diarhebion 24:23; 28:21 yn tystio yn eu herbyn;
maen nhw’n arddangos eu pechod fel Sodom,
heb geisio cuddio dim!
Gwae nhw! Maen nhw wedi
dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
10Dywed:
Bydd hi’n dda ar y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn;
byddan nhw’n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
11Ond gwae y rhai sy’n gwneud drwg,
bydd pethau’n ddrwg arnyn nhw;
byddan nhw’n cael blas o’r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.
12Bydd gormeswyr#3:12 gormeswyr: felly LXX, Hebraeg, “plant”. yn greulon at fy mhobl,
a treiswyr#3:12 treiswyr: felly LXX, Hebraeg, “merched”. yn eu rheoli.
O fy mhobl,
mae dy arweinwyr yn dy gamarwain;
maen nhw wedi dy ddrysu.
Duw yn barnu
13Mae’r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,
mae’n codi ar ei draed i farnu’r bobloedd.
14Mae’r ARGLWYDD yn dod â’r cyhuddiad yma
yn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:
“Chi ydy’r rhai sydd wedi dinistrio’r winllan!#3:14 winllan darlun o wlad Israel (gw. 5:1-7).
Mae’r hyn sydd wedi’i ddwyn oddi ar y tlawd
yn eich tai chi.
15Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i,
a gorthrymu’r rhai tlawd?”
–meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Merched Jerwsalem
16Yna dwedodd yr ARGLWYDD:
“Mae merched Seion mor falch,
yn dal eu pennau i fyny,
yn fflyrtian â’u llygaid
ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog,
a’u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd.”
17Felly bydd y Meistr yn gwneud i rash
ddod ar bennau merched Seion.
Bydd yr ARGLWYDD yn siafio’u talcennau nhw.
18Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â’u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant, 19y clustdlysau, y breichledau, a’r fêl; 20y diadem, y cadwyni, a’r sash; y ffiolau persawr a’r swyndlysau; 21y sêl-fodrwy a’r fodrwy drwyn; 22y dillad hardd, y cotiau, a’r siôl; y pyrsiau, 23y gwisgoedd sidan, a’r dillad lliain; y twrban a’r clogyn.
24Wedyn –
yn lle persawr bydd pydredd;
yn lle’r rhwymyn bydd rhaff;
yn lle steil gwallt bydd moelni;
yn lle mantell wedi’i brodio bydd sachliain.
Ie, cywilydd yn lle harddwch.
25Bydd dy ddynion yn cael eu lladd â’r cleddyf,
a’th filwyr yn syrthio yn y frwydr.
26Bydd galaru wrth giatiau’r ddinas –
a hithau wedi’i gwagio
ac yn eistedd ar lawr.

Currently Selected:

Eseia 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in