YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 28

28
Cosbi Samaria
1Gwae Samaria!
Bydd coron falch meddwon Effraim#28:1 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. yn syrthio,
a’i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo –
blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.
Maen nhw’n chwil gaib!
2Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr
sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol –
fel storm pan mae’r glaw yn arllwys i lawr
ac yn bwrw popeth i’r llawr.
3Bydd coron falch meddwon Effraim
wedi’i sathru dan draed, 4a’i blodau wedi gwywo –
y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.
Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i’r cynhaeaf ddod.
Bydd rhywun yn sylwi arni
ac yn ei llyncu yr eiliad mae’n gafael ynddi.
5Bryd hynny,
bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn goron hardd,
ac yn dorch wedi’i phlethu’n hyfryd
i’r bobl fydd wedi’u gadael ar ôl.
6Bydd yn rhoi arweiniad i’r un sy’n eistedd i farnu,
a nerth i’r rhai sy’n amddiffyn giatiau’r ddinas.
Proffwydi meddw Jwda
7Ond mae’r rhain wedi meddwi’n gaib ar win;
maen nhw’n chwil ar ôl yfed cwrw.
Mae’r offeiriad a’r proffwyd
wedi meddwi’n gaib ar gwrw
a drysu’n lân ar win.
Maen nhw’n chwil ar ôl yfed cwrw,
a’u gweledigaethau’n ddryslyd;
maen nhw’n baglu wrth farnu.
8Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd;
does dim lle’n lân o gwbl.
9“Pwy mae e’n gallu ei ddysgu?
I bwy fyddai e’n gallu esbonio rhywbeth?
I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest falle!
10Fel ailadrodd llythrennau’r wyddor,
‘a, b’, ‘a, b’,
‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’,
tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
11O’r gorau, bydd yn siarad gyda nhw
fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.
12Roedd wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol:
“Dyma le saff, lle i’r blinedig orffwys;
dyma le i chi orwedd i lawr.”
Ond doedd neb yn fodlon gwrando.
13Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw:
“‘a, b’, ‘a, b’,
‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’,
tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
Wrth geisio codi i gamu yn eu blaenau
byddan nhw’n syrthio ar eu tinau,
yn cael eu dryllio a’u rhwymo a’u dal.
Conglfaen yn Seion
14Felly dyma neges yr ARGLWYDD
i chi sy’n gwawdio,
chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!
15Chi sy’n brolio,
“Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth,
a tharo bargen i osgoi’r bedd.
Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio,
fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni.
Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio,
a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
16Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:
“Edrychwch, dw i’n mynd i osod carreg yn Seion,
carreg ddiogel,
conglfaen gwerthfawr,
sylfaen hollol gadarn.
Fydd pwy bynnag sy’n credu ddim yn panicio.
17Bydda i’n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur,
a thegwch yn llinyn plwm.
Bydd cenllysg yn ysgubo’r twyll, sef eich lle i guddio,
a bydd dŵr y llifogydd yn boddi’ch lle saff i gysgodi.
18Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri,
a’ch bargen gyda’r bedd yn chwalu.
Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio,
chi fydd yn diodde’r difrod.
19Bydd yn eich taro chi
bob tro y bydd yn dod.
Bydd yn dod un bore ar ôl y llall,
bob dydd a bob nos.”
Bydd deall y neges yma
yn achosi dychryn ofnadwy.
20Mae’r gwely’n rhy fyr i ymestyn arno,
a’r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!
21Bydd yr ARGLWYDD yn codi
fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm;#28:21 Fynydd Peratsîm Cyfeiriad at fuddugoliaeth Dafydd yn erbyn y Philistiaid yn Baal-peratsîm (2 Samuel 5:17-21).
bydd yn cyffroi i wneud ei waith
fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon#28:21 Gibeon Cyfeiriad at fuddugoliaeth Josua yn Gibeon (Josua 10:1-11).
ond bydd yn waith rhyfedd!
Bydd yn cyflawni’r dasg –
ond bydd yn dasg ddieithr!
22Felly, stopiwch wawdio,
rhag i’ch rhwymau gael eu tynhau.
Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,
yn gorchymyn dinistrio’r wlad gyfan.
Doethineb Duw
23Gwrandwch yn astud ar hyn!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i’n ddweud.
24Ydy’r sawl sy’n aredig
yn aredig drwy’r amser heb hau?
Ydy e’n troi’r tir a’i lyfnu’n ddi-baid?
25Ar ôl ei lefelu, onid ydy e’n
gwasgaru ffenigl a hadau cwmin?
Onid ydy e’n hau gwenith mewn rhes,
haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?
26Ei Dduw sy’n ei ddysgu;
mae’n dysgu’r ffordd iawn iddo.
27Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled,
na cwmin gydag olwyn trol.
Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon,
a chwmin gyda gwialen.
28Mae gwenith yn cael ei falu,
ond ddim yn ddiddiwedd.
Mae olwyn trol yn rholio drosto,
ond dydy’r ceffylau ddim yn ei sathru.
29A’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd –
Mae ganddo gynllun gwych,
ac mae’n rhyfeddol o ddoeth.

Currently Selected:

Eseia 28: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in