YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 26

26
Cân o fuddugoliaeth
1Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda:
Mae gynnon ni ddinas gref;
achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.
2Agorwch y giatiau,
i’r genedl gyfiawn ddod i mewn
a gweld ei ffyddlondeb.
3Mae’r rhai sy’n dy drystio di
yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.
4Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser,
achos, wir, mae’r ARGLWYDD yn graig am byth.
5Mae’n tynnu’r rhai balch i lawr.
Mae’n gwneud i’r ddinas saff syrthio –
syrthio i’r llawr nes bydd yn y llwch.
6Mae’n cael ei sathru dan draed –
traed y rhai anghenus, a sodlau’r rhai tlawd.
7Mae’r llwybr yn wastad i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn;
rwyt ti’n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.
8Dŷn ni’n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn;
cofio dy enw di ydy’n hiraeth dyfnaf ni.
9Yn y nos dw i’n dyheu amdanat o waelod calon,
mae’r cwbl sydd ynof yn dy geisio di’n daer;
achos pan mae’r hyn sy’n iawn yn dy olwg di’n cael ei wneud yn y wlad,
maen nhw’n dysgu beth sy’n iawn i bawb yn y byd.
10Pan mae’r un sy’n gwneud drwg yn cael ei esgusodi,
dydy e ddim yn dysgu beth sy’n iawn.
Mae’n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest –
dydy e’n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD.
11 ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithredu
ond dŷn nhw ddim wedi sylwi.
Gad iddyn nhw gywilyddio wrth weld
dy sêl dros dy bobl,
a’th dân yn llosgi dy elynion.
12O ARGLWYDD! Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni;
Ti sydd wedi cyflawni’r cwbl ar ein rhan!
13O ARGLWYDD ein Duw,
mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli,
ond dim ond ti oedden ni’n ei gydnabod.
14Mae’r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw;
cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi.
Ti wnaeth benderfynu eu tynged,
eu dinistrio a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.
15Ti wedi gwneud i’r genedl dyfu, O ARGLWYDD,
Ti wedi gwneud i’r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun.
Ti wedi estyn ffiniau’r wlad.
16 ARGLWYDD, pan oedd hi’n argyfwng arnyn nhw
dyma nhw’n dy geisio di.
Roeddet ti wedi’u ceryddu nhw
am yr holl sibrwd swynion.
17Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD,
fel gwraig ar fin cael plentyn,
yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen.
18Ond os oedden ni’n feichiog, os oedden ni’n gwingo,
doedden ni’n geni dim byd ond gwynt.
Gafodd y wlad mo’i hachub,
a doedd dim plant wedi’u geni i fyw yn y tir.
19Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw!#Daniel 12:2
Bydd cyrff marw yn codi eto!
Deffrwch a chanwch yn llawen,
chi sy’n byw yn y pridd!
Bydd dy olau fel gwlith y bore
yn rhoi bywyd i dir y meirwon.
20Ewch, fy mhobl! Ewch i’ch ystafelloedd,
a chloi’r drysau ar eich hôl.
Cuddiwch am funud fach, nes i’w lid basio heibio.
21Achos mae’r ARGLWYDD yn dod allan
i gosbi pobl y ddaear am eu drygioni.
Bydd y tir yn dangos y trais fu arno,
a ddim yn cuddio’r rhai gafodd eu lladd byth mwy.

Currently Selected:

Eseia 26: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in