YouVersion Logo
Search Icon

Hebreaid 13

13
Anogaeth i gloi
1Daliwch ati i garu’ch gilydd fel credinwyr. 2Peidiwch stopio’r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi – mae rhai pobl wedi croesawu angylion i’w cartrefi heb yn wybod!#Genesis 18:1-8; 19:1-3 3Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy’n cael eu cam-drin, fel tasech chi’ch hunain yn dioddef yr un fath.
4Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy’n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas. 5Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi. Wedi’r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud,
“Wna i byth eich siomi chi,
na throi fy nghefn arnoch chi.” #Deuteronomium 31:6,8
6Felly gallwn ni ddweud yn hyderus,
“Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i;
fydd gen i ddim ofn.
Beth all pobl ei wneud i mi?” #Salm 118:6 (LXX)
7Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw. 8Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser – ddoe, heddiw ac am byth!
9Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy’n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy’n iawn i’w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly’n gwneud lles i neb! 10Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy’n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni. 11Dan yr hen drefn mae’r archoffeiriad yn mynd â gwaed anifeiliaid i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i’r gwersyll.#cyfeiriad at Lefiticus 16:27 12A’r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau’r ddinas er mwyn glanhau’r bobl drwy dywallt ei waed ei hun. 13Felly gadewch i ninnau fynd ato, y tu allan i’r gwersyll, a bod yn barod i ddioddef amarch fel gwnaeth Iesu ei hun. 14Dim y byd hwn ydy’n dinas ni! Dŷn ni’n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod.
15Felly, gadewch i ni foli Duw drwy’r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni’n eu cyflwyno iddo ydy’r mawl mae e’n ei haeddu. 16A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu’ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae’r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn.
17Byddwch yn ufudd i’ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw’n ei ddweud. Mae’n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw’n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny’n sicr o ddim lles i chi.
18Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae’n cydwybod ni’n glir, a dŷn ni’n ceisio gwneud beth sy’n iawn bob amser. 19Dw i’n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i’ch gweld chi’n fuan.
20-21Dw i’n gweddïo y bydd Duw, sy’n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy’r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Drwy farw’n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i’n gweddïo y bydd Duw, drwy’r Meseia Iesu, yn ein galluogi ni i wneud beth sy’n ei blesio fe. Mae’n haeddu ei foli am byth! Amen!
22Ffrindiau annwyl, dw i’n pwyso arnoch chi i dderbyn beth dw i wedi’i ddweud. Dw i wedi bod mor gryno ag y galla i.
23Dw i am i chi wybod fod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau o garchar. Os daw yma’n fuan bydda i’n dod ag e gyda mi i’ch gweld chi.
24Cofion at eich arweinwyr chi i gyd! – ac at bob un o’r credinwyr sydd acw. Mae Cristnogion yr Eidal yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
25Dw i’n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.

Currently Selected:

Hebreaid 13: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in