YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 36

36
Disgynyddion Esau
(1 Cronicl 1:34-37)
1Dyma hanes teulu Esau (sef Edom):
2Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad), 3a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth).
4Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas.
Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
5a chafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.
Dyma enwau’r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.
6Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â’i wragedd gydag e, a’i feibion a’i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a’i anifeiliaid a’r holl eiddo roedd wedi’i gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan. 7Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda’i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl. 8Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir.
9Dyma hanes teulu Esau (ohono fe y daeth pobl Edom, sy’n byw ym mryniau Seir):
10Enwau meibion Esau: Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), a Reuel (mab Basemath, gwraig Esau)
11Enwau meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas. 12Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner#36:12 bartner Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. o’r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.)
13Enwau meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau.
14A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora.
15Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol:
Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas, 16Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada.
17Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath.
18Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana).
19Mae’r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau – dyma arweinwyr llwythau Edom.
Disgynyddion Seir
(1 Cronicl 1:38-42)
20A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o’r blaen: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, 21Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau’r Horiaid, disgynyddion Seir sy’n byw yng ngwlad Edom.
22Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan).
23Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.
24Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).
25Plant Ana oedd Dishon ac Oholibama (merch Ana).
26Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
27Meibion Etser oedd Bilhan, Saafan ac Acan.
28Meibion Dishan oedd Us ac Aran.
29Dyma arweinwyr llwythau’r Horiaid: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, 30Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau’r Horiaid yng ngwlad Seir.
Brenhinoedd Edom
(1 Cronicl 1:43-54)
31Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:
32Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.
33Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.
34Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.
35Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.
36Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.
37Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.
38Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.
39Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).
40Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau – pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o’r wlad: Timna, Alfa, Ietheth, 41Oholibama, Ela, Pinon, 42Cenas, Teman, Miftsar, 43Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom (sef Esau, tad pobl Edom) – pob un yn byw yn y rhan o’r wlad roedd wedi’i meddiannu.

Currently Selected:

Genesis 36: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in