YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 26

26
Isaac yn twyllo Abimelech
1Roedd newyn yn y wlad (newyn gwahanol i’r newyn ddigwyddodd pan oedd Abraham yn fyw). A dyma Isaac yn mynd at Abimelech, brenin y Philistiaid, yn Gerar. 2Dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i’r Aifft. Dos i’r wlad fydda i’n ei dangos i ti. 3Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i’n mynd i roi’r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i’n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham. 4Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i’n mynd i roi’r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio. 5Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddwedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw’r gorchmynion, yr arweiniad a’r ddysgeidiaeth rois i iddo.” 6Felly dyma Isaac yn mynd i fyw i Gerar.
7Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i’r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi’n wraig hardd iawn.) 8Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, dyma Abimelech, brenin y Philistiaid, yn digwydd edrych allan o ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca. 9Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i’w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.” 10“Beth yn y byd wyt ti’n meddwl ti’n wneud?” meddai Abimelech. “Gallai unrhyw un o’r dynion fod wedi cysgu hefo hi. Byddet ti wedi’n gwneud ni i gyd yn euog!” 11Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i’w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â’r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.”
12Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio. 13Roedd yn ddyn llwyddiannus iawn, a daeth yn gyfoethog dros ben. 14Roedd ganddo gymaint o ddefaid a gwartheg, a gweision, nes bod y Philistiaid yn genfigennus ohono. 15Felly dyma’r Philistiaid yn llenwi’r pydewau dŵr i gyd gyda phridd. (Y pydewau oedd wedi cael eu cloddio gan weision Abraham pan oedd Abraham yn dal yn fyw.) 16A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti’n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.” 17Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar. 18Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (y rhai roedd y Philistiaid wedi’u llenwi ar ôl i Abraham farw), a galwodd nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw’n wreiddiol. 19Yna pan aeth gweision Isaac ati i gloddio pydewau yn y dyffryn, dyma nhw’n darganfod ffynnon lle roedd dŵr glân yn llifo drwy’r adeg. 20Ond dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau â gweision Isaac. “Ni piau’r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec,#26:20 h.y. cweryl. am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e. 21Dyma nhw’n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna.#26:21 h.y. gwrthwynebiad. 22Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, a fuodd dim dadlau am hwnnw, felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth.#26:22 h.y. digon o le. “Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.
23Aeth Isaac yn ei flaen o’r fan honno i Beersheba. 24Y noson honno dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i’n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.” 25Felly dyma fe’n codi allor yno ac yn addoli’r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma’i weision yn cloddio pydew yno hefyd.
26Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin. 27Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod yma? Dych chi’n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.” 28Dyma nhw’n ateb, “Mae’n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti. 29Wnei di addo peidio ymosod arnon ni? Wnaethon ni ddim drwg i ti, dim ond da, a cefaist dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Mae’r ARGLWYDD wedi dy fendithio di.”
30Felly dyma Isaac yn paratoi gwledd iddyn nhw, a dyma nhw’n bwyta ac yn yfed gyda’i gilydd. 31Y bore wedyn dyma nhw’n codi’n gynnar ac yn gwneud cytundeb gyda’i gilydd. Wedyn dyma Isaac yn ffarwelio â nhw ar delerau da. 32Y diwrnod hwnnw hefyd daeth gweision Isaac ato i ddweud wrtho eu bod wedi dod o hyd i ddŵr yn y pydew y buon nhw’n ei gloddio. 33Galwodd Isaac y pydew yn Sheba.#26:33 gair tebyg i’r gair Hebraeg am lw,. Felly Beersheba#26:33 h.y. Ffynnon y saith, neu, Ffynnon y llw. ydy enw’r lle hyd heddiw.
Esau yn priodi gwragedd estron
34Pan oedd Esau yn 40 mlwydd oed, priododd Judith (merch Beëri’r Hethiad), a Basemath (merch Elon yr Hethiad). 35Roedd y ddwy yn gwneud bywyd yn ddiflas iawn i Isaac a Rebeca.

Currently Selected:

Genesis 26: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in