YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 36

36
1“Felly mae Betsalel, Oholiab a’r crefftwyr eraill, sef y rhai mae Duw wedi’u donio i wneud y gwaith o godi’r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae’r ARGLWYDD wedi dweud.”
Trosglwyddo’r rhoddion i’r crefftwyr
2Dyma Moses yn galw Betsalel ac Oholiab ato, a’r crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wedi’u donio – pob un oedd wedi’i sbarduno i wirfoddoli i helpu. 3A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi’u hoffrymu i’r gwaith o godi’r cysegr.
Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore. 4Felly dyma’r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith, 5a dweud wrth Moses, “Mae’r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae’r ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!” 6Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy’r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i’w cyflwyno’n rhoddion tuag at adeiladu’r cysegr!” Roedd rhaid stopio’r bobl rhag dod â mwy! 7Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.
Codi’r Tabernacl
(Exodus 26:1-37)
8Dyma’r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl o ddeg llen o’r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi’u dylunio’n gelfydd arnyn nhw, a’u brodio gydag edau las, porffor a coch. 9Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 10Yna dyma bump o’r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a’r pump arall yr un fath. 11Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set – 12hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn â’i gilydd. 13Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
14Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw. 15Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 16Yna gwnïo pump o’r llenni at ei gilydd, a gwnïo’r chwech arall at ei gilydd hefyd. 17Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, 18a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
19Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi’i wneud o grwyn hyrddod wedi’u llifo’n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw.
20Yna cafodd fframiau’r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth. 21Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led, 22gyda dau denon ar bob un i’w cysylltu â’i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi’u gwneud yr un fath. 23Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl, 24a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i’r ddau denon ar bob ffrâm. 25Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol, 26gyda phedwar deg soced i’w dal nhw – dwy soced dan bob ffrâm. 27Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, 28a dau ffrâm ychwanegol i’r corneli yn y cefn. 29Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda’i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda’i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath. 30Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.
31-32Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i’r fframiau bob ochr i’r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy’n wynebu’r gorllewin. 33Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i’r llall. 34Yna gorchuddio’r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio’r croesfarrau gydag aur hefyd.
35Wedyn gwneud llen arbennig o’r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi’u dylunio’n gelfydd arni, a’u brodio gydag edau las, porffor a coch. 36A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi’u gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a phedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.
37Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i’r babell. Hon eto wedi’i gwneud o’r lliain main gorau, ac wedi’i brodio gydag edau las, porffor a coch. 38Yna gwneud pump polyn o goed acasia gyda bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.

Currently Selected:

Exodus 36: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in