YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 34:6-7

Exodus 34:6-7 BNET

Dyma’r ARGLWYDD yn pasio heibio o’i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau’r tadau sy’n gadael eu hôl ar eu plant a’u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.”