Daniel 2
2
Breuddwyd Nebwchadnesar
1Yn ystod yr ail flwyddyn pan oedd Nebwchadnesar yn frenin cafodd freuddwyd oedd yn ei boeni gymaint roedd yn colli cwsg am y peth. 2Dyma fe’n galw’r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a’r dynion doeth at ei gilydd i esbonio’r freuddwyd iddo. Dyma nhw’n dod a sefyll o flaen y brenin. 3A dyma’r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy’r ystyr.” 4A dyma’r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg#2:4 yn Aramaeg Nodyn golygyddol sy’n dynodi newid yn iaith y llyfr. Mae Penodau 2:4–7:28 wedi’u hysgrifennu yn yr iaith Aramaeg.], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae’n ei olygu.”
5“Na,” meddai’r brenin, “dim o gwbl. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae’n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi’n cael eu rhwygo’n ddarnau, a’ch cartrefi’n cael eu troi’n domen sbwriel! 6Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae’n ei olygu, bydda i’n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae’n ei olygu!”
7Ond dyma nhw’n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae’n ei olygu.”
8“Dw i’n deall eich gêm chi,” meddai’r brenin. “Dych chi’n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi’n chwarae am amser. 9Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi’n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa’n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi’n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio’r ystyr.”
10A dyma’r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae’r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i’w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth. 11Mae’r brenin yn gofyn am rywbeth sy’n amhosib! Dim ond y duwiau sy’n gwybod yr ateb – a dŷn nhw ddim yma gyda ni!”
12Pan glywodd hynny, dyma’r brenin yn gwylltio’n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd. 13Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a’i ffrindiau’n mynd i gael eu dienyddio hefyd.
Duw yn dangos ystyr y freuddwyd i Daniel
14Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu’r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio’r dynion doeth i gyd. 15Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae’r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd. 16Felly dyma Daniel yn gofyn i’r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai’n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd. 17Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth. 18Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw’r nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon.
19Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i’r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe’n moli Duw’r nefoedd, 20a dweud,
“Boed i enw Duw gael ei foli am byth!
Mae e’n Dduw doeth a chryf.
21Fe sy’n rheoli amser ac yn arwain hanes.
Fe sy’n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw.
Fe sy’n rhoi doethineb i’r doeth,
a gwybodaeth i bobl ddeallus.
22Mae e’n datguddio pethau sy’n ddirgelwch llwyr.
Mae e’n gweld beth sy’n y tywyllwch;
mae golau o’i gwmpas e bob amser.
23Dw i’n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid.
Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi.
Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod,
a rhoi i mi’r ateb i gwestiwn y brenin.”
Daniel yn esbonio ystyr y freuddwyd i’r brenin
24Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.” 25Felly’n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy’n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!” 26Dyma’r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti’n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae’n ei olygu?” 27Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear – dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr – yn gallu datrys y dirgelwch yma i’r brenin. 28Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy’n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae’r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.
“Dyma beth welsoch chi’n eich breuddwyd: 29Tra oedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy’n datrys pob dirgelwch bethau sy’n mynd i ddigwydd. 30Dw i ddim wedi cael yr ateb i’r dirgelwch am fy mod i’n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i’r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e.
31“Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio’n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. 32Roedd pen y cerflun wedi’i wneud o aur, ei frest a’i freichiau yn arian, ei fol a’i gluniau yn bres, 33ei goesau yn haearn, a’i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith. 34Tra oeddech chi’n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma’r garreg yn taro’r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw’n ddarnau. 35A dyma’r cerflun anferth yn syrthio’n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A chafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma’r garreg wnaeth daro’r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i’w weld yn amlwg drwy’r byd i gyd.
36“Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i’r brenin: 37Eich mawrhydi, dych chi’n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw’r nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi. 38Dych chi’n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwyllt ac adar yn byw. Chi ydy’r pen o aur. 39Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â’ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny, bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli’r byd i gyd – dyma’r un o bres. 40Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae’n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o’i blaen. 41Ac wedyn y traed a’r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi’i gymysgu â chrochenwaith ydy e. 42Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith. 43Mae’r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu drwy briodas, ond ddim yn aros gyda’i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda’i gilydd.
44“Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a’i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth. 45Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu’r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a’r aur. Mae’r Duw mawr wedi dangos i’r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae’r esboniad yn gywir hefyd.”
Y brenin yn gwobrwyo Daniel
46Dyma’r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â’i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo. 47Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy’r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e’n gallu datguddio pob dirgelwch!”
48Dyma’r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel, ac yn rhoi llwythi o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn llywodraethwr talaith Babilon gyfan, ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd. 49A gofynnodd Daniel i’r brenin apwyntio Shadrach, Meshach ac Abednego yn rheolwyr gweinyddiaeth talaith Babilon. Roedd Daniel yn weinidog yn llywodraeth y brenin.
Currently Selected:
Daniel 2: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023