YouVersion Logo
Search Icon

Amos 9:13-14

Amos 9:13-14 BNET

“Gwyliwch chi!” meddai’r ARGLWYDD, “Mae’r amser yn dod, pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi’n amser aredig eto cyn i’r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu! A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw’n dal i’w sathru pan fydd yr amser wedi dod i hau’r had eto. Bydd gwin melys yn diferu o’r mynyddoedd a bydd yn llifo i lawr y bryniau. Bydda i’n dod â’m pobl Israel yn ôl i’w gwlad. Byddan nhw’n ailadeiladu’r trefi sy’n adfeilion, ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto. Byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin. Byddan nhw’n trin eu gerddi ac yn bwyta’r ffrwythau.