Actau 26:17-18
Actau 26:17-18 BNET
Bydda i’n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i’n dy anfon di atyn nhw i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i’n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw’n cael perthyn i’r bobl hynny sydd wedi’u gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’