2 Samuel 16:11-12
2 Samuel 16:11-12 BNET
A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a’i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai’r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld mod i’n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle’r holl felltithio yma.”