2 Corinthiaid 13
13
Rhybuddion olaf
1Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi.
“Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.” #
Deuteronomium 19:15 (cf. Deuteronomium 17:6) 2Dw i wedi rhoi un rhybudd i’r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i’n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i’n dangos dim trugaredd y tro nesa! 3Wedi’r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e’n delio gyda chi – mae’n gweithio’n nerthol yn eich plith chi! 4Mae’n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A’r un modd, dŷn ni sy’n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni’n rhannu ei fywyd e – a’r bywyd hwnnw sydd drwy nerth Duw yn ein galluogi ni i’ch gwasanaethu chi.
5Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw’n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? – os na, dych chi wedi methu’r prawf. 6Beth bynnag, dw i’n hyderus eich bod chi’n gweld ein bod ni ddim wedi methu’r prawf. 7Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio’r prawf ydy’r rheswm pam dŷn ni’n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi’n gwneud dim o’i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy’n iawn hyd yn oed os ydy’n ymddangos ein bod ni wedi methu. 8Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy’n rhwystr i’r gwirionedd, dim ond beth sy’n hybu’r gwirionedd. 9Yn wir, dŷn ni’n ddigon balch o fod yn wan os dych chi’n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer. 10Dyna pam dw i’n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i’n absennol – dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio’r awdurdod mae’r Arglwydd wedi’i roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu’ch ffydd chi.
Cyfarchion i gloi
11Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i’n eich annog chi i’w wneud. Cytunwch â’ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â’ch gilydd. A bydd y Duw sy’n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi.
12Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.
Mae pobl Dduw i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
13Dw i’n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a’r rhannu mae’r Ysbryd Glân yn ei ysgogi.
Currently Selected:
2 Corinthiaid 13: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023