YouVersion Logo
Search Icon

2 Corinthiaid 10

10
Paul yn amddiffyn ei weinidogaeth
1Felly dyma fi, Paul, yn apelio atoch chi yn addfwyn ac yn garedig fel y Meseia ei hun – ie fi, yr un maen nhw’n dweud sy’n ‘llwfr’ pan dw i wyneb yn wyneb â chi, ond mor ‘galed’ pan dw i’n bell i ffwrdd! 2Pan fydda i’n dod acw, dw i’n erfyn arnoch chi, peidiwch gwneud i mi fod yn galed gyda chi fel dw i’n disgwyl gorfod bod gyda’r rhai hynny sy’n dweud ein bod ni’n byw fel pobl y byd, sydd ddim yn credu! 3Dŷn ni’n byw yn y byd yn sicr, ond dŷn ni ddim yn ymladd ein brwydrau fel mae’r byd yn gwneud. 4Dŷn ni ddim yn defnyddio arfau’r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! – mae’n harfau ni yn rhai grymus, a Duw sy’n rhoi’r nerth i ni chwalu’r cestyll mae’r gelyn yn eu hamddiffyn. 5Dŷn ni’n chwalu dadleuon a’r syniadau balch sy’n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni’n rhwymo’r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i’r Meseia. 6Pan fyddwch chi’n ufudd eto, byddwn ni’n barod wedyn i gosbi pawb sy’n aros yn anufudd.
7Dych chi’n edrych ar bethau’n rhy arwynebol! Dylai’r rhai sy’n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda’r Meseia ystyried hyn: mae’n perthynas ni gyda’r Meseia mor real â’u perthynas nhw. 8Hyd yn oed petawn i’n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae’r Arglwydd Iesu wedi’i roi i ni does gen i ddim cywilydd o’r peth. Awdurdod i’ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu’ch ffydd chi. 9Dw i ddim yn ceisio’ch dychryn chi yn fy llythyrau. 10Dw i’n gwybod yn iawn beth maen nhw’n ei ddweud: “Mae’n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae’n siaradwr anobeithiol!” 11Gwell i bobl felly sylweddoli hyn: pan ddown ni atoch chi, byddwn ni’n gwneud yn union beth mae’n llythyrau yn ei ddweud.
12Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu’n hunain a rhoi’n hunain yn yr un dosbarth â’r rhai hynny sy’n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â’i gilydd, maen nhw’n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn. 13Dŷn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i’w wneud â ni. Dŷn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi’i roi i ni – ac mae hynny’n cynnwys gweithio gyda chi! 14Dŷn ni ddim yn tresmasu ar faes rhywun arall. Wedi’r cwbl, ni ddaeth â’r newyddion da am y Meseia atoch chi! 15Dŷn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i’ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy. 16Wedyn byddwn ni’n gallu mynd ymlaen i gyhoeddi’r newyddion da mewn lleoedd sy’n bellach i ffwrdd na chi. Ond dŷn ni ddim yn mynd i frolio am y gwaith mae rhywun arall wedi’i wneud! 17“Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae’r Arglwydd wedi’i wneud.”#Jeremeia 9:24 18Dim y bobl sy’n canmol eu hunain sy’n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae’r Arglwydd ei hun yn eu canmol.

Currently Selected:

2 Corinthiaid 10: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in