1 Samuel 7
7
1Felly dyma bobl Ciriath-iearîm yn nôl Arch yr ARGLWYDD, a mynd â hi i ben y bryn i dŷ Abinadab. Yna dyma nhw’n cysegru Eleasar, ei fab, i ofalu am yr Arch.
Samuel yn troi pobl Israel yn ôl at Dduw
2Aeth y blynyddoedd heibio. Roedd hi tua dau ddeg mlynedd ers i’r Arch ddod i Ciriath-iearîm, ac roedd pobl Israel i gyd yn dyheu am yr ARGLWYDD eto. 3Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi’n ôl at Dduw â’ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a’r delwau sydd gynnoch chi o’r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD, a’i addoli e a neb arall. Wedyn, bydd e’n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.” 4Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â’r delwau o Baal a’r dduwies Ashtart, a dechrau addoli’r ARGLWYDD yn unig.
5Dwedodd Samuel wrthyn nhw am gasglu pawb at ei gilydd yn Mitspa. “Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD trosoch chi,” meddai. 6Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw’n codi dŵr o’r ffynnon a’i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta drwy’r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.)
7Clywodd y Philistiaid fod pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. Felly dyma lywodraethwyr y Philistiaid yn penderfynu ymosod arnyn nhw. Pan glywodd pobl Israel am hyn, roedden nhw wedi dychryn. 8Dyma nhw’n dweud wrth Samuel, “Dal ati i weddïo’n daer ar yr ARGLWYDD ein Duw, iddo’n hachub ni rhag y Philistiaid.” 9Felly dyma Samuel yn cymryd oen sugno a’i losgi’n gyfan yn offrwm i Dduw. Wrth i Samuel weddïo dros Israel, dyma Duw yn ei ateb.
10Roedd y Philistiaid ar fin ymosod ar Israel pan oedd Samuel yn cyflwyno’r offrwm. A’r foment honno dyma’r ARGLWYDD yn anfon anferth o storm o fellt a tharanau, wnaeth yrru’r Philistiaid i banig llwyr, a dyma nhw’n ffoi o flaen byddin Israel. 11Aeth dynion Israel allan o Mitspa ar eu holau, a lladd llawer iawn ohonyn nhw yr holl ffordd i’r ochr isaf i Beth-car.
12Yna dyma Samuel yn gosod carreg i fyny rhwng Mitspa a’r clogwyn. Rhoddodd yr enw Ebeneser iddi (sef ‘Carreg Help’), a dweud, “Mae’r ARGLWYDD wedi’n helpu ni hyd yma.” 13Roedd y Philistiaid wedi’u trechu, a wnaethon nhw ddim ymosod ar Israel eto. Tra oedd Samuel yn fyw roedd yr ARGLWYDD yn delio gyda’r Philistiaid. 14Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi’u cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a’r tir o’u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Ac roedd yna heddwch hefyd rhwng pobl Israel a’r Amoriaid.
15Buodd Samuel yn arwain Israel am weddill ei fywyd. 16Bob blwyddyn byddai’n mynd ar gylchdaith o Bethel i Gilgal ac yna i Mitspa. Byddai’n cynnal llys ym mhob tref yn ei thro 17cyn mynd yn ôl adre i Rama. Dyna lle roedd yn byw, ac o’r fan honno roedd e’n arwain Israel. Roedd wedi codi allor i’r ARGLWYDD yno hefyd.
Currently Selected:
1 Samuel 7: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023