YouVersion Logo
Search Icon

1 Brenhinoedd 16

16
1Dyma Jehw fab Chanani yn cael neges gan yr ARGLWYDD i’w rhoi i Baasha. 2“Gwnes i dy godi di o’r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i’m pobl bechu. Dw i wedi gwylltio’n lân gyda nhw. 3Felly, dw i’n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i’n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat.
4Bydd pobl Baasha sy’n marw yn y ddinas
yn cael eu bwyta gan y cŵn.
Bydd y rhai sy’n marw yng nghefn gwlad
yn cael eu bwyta gan yr adar!”
5Mae gweddill hanes Baasha – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a’i lwyddiant milwrol – i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 6Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le.
7Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a’i deulu drwy’r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio’r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda theulu Jeroboam. Doedd e’i hun ddim gwahanol!
Ela, brenin Israel
8Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela’n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd. 9Ond dyma Simri, un o’i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Artsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa). 10Aeth Simri i mewn, ymosod ar Ela a’i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela.
11Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen#16:11 un dyn na bachgen Hebraeg, “un sy’n piso ar bared”. yn fyw – lladdodd aelodau’r teulu a’i ffrindiau i gyd. 12Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd. 13Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a’i fab Ela wedi’u gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio’r ARGLWYDD gyda’u holl eilunod diwerth.
14Mae gweddill hanes Ela, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Simri, brenin Israel
15Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri’n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi’r Philistiaid, ar y pryd. 16Dyma’r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwynio yn erbyn y brenin a’i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma’r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel. 17A dyma Omri a’i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel. 18Roedd Simri’n gweld bod y ddinas wedi’i chipio, felly dyma fe’n mynd i gaer y palas, rhoi’r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau. 19Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.
20Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Omri, brenin Israel
21Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu’n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a’r hanner arall yn cefnogi Omri. 22Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin.
23Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa. 24Prynodd Omri fryn Samaria gan Shemer am saith deg cilogram o arian. Dyma fe’n adeiladu tref ar y bryn a’i galw’n Samaria, ar ôl Shemer, cyn-berchennog y mynydd.
25Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o’i flaen. 26Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam fab Nebat; roedd yn gwneud i Israel hefyd bechu a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda’u holl eilunod diwerth.
27Mae gweddill hanes Omri – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a’i lwyddiant milwrol – i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 28Pan fu farw Omri, cafodd ei gladdu yn Samaria. A dyma Ahab, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Ahab, brenin Israel
29Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. 30Gwnaeth Ahab fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o’i flaen. 31Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu ac addoli’r Baal! 32Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi. 33Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio’r ARGLWYDD, Duw Israel, nag unrhyw frenin o’i flaen.
34Yn y cyfnod pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, wrth osod sylfeini’r ddinas, a’i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma’n union roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud fyddai’n digwydd, drwy Josua fab Nwn.#Josua 6:26

Currently Selected:

1 Brenhinoedd 16: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in