YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 5

5
Y Bregeth ar y Mynydd
1Pan welodd Iesu’r tyrfaoedd aeth i fyny i’r mynydd. Eisteddodd, ac wedi i’w ddisgyblion gasglu o’i gwmpas, 2dechreuodd eu dysgu fel hyn:
Y bywyd dedwydd
3“Mor ddedwydd yw’r rhai sy’n cydnabod eu bod yn dlawd yn ysbrydol; nhw biau teyrnas Nefoedd.
4Mor ddedwydd yw’r sawl sy’n galaru; fe gân nhw eu cysuro.
5Mor ddedwydd yw’r rhai addfwyn; fe gân nhw etifeddu’r ddaear.
6Mor ddedwydd yw y rhai sy’n dyheu ac yn ysu am weld cyfiawnder; fe gân nhw eu bodloni.
7Mor ddedwydd yw’r rhai trugarog; fe gân nhw drugaredd.
8Mor ddedwydd yw y pur o galon; fe gân nhw weld Duw.
9Mor ddedwydd yw’r sawl sy’n gweithio am heddwch; fe’u gelwir yn blant i Dduw.
10Mor ddedwydd yw’r rhai sydd wedi cael eu herlid am eu bod yn gyfiawn: nhw biau teyrnas nefoedd.
11Mor ddedwydd chithau pan fydd pobl yn eich sarhau ac yn eich erlid ac yn gelwyddog yn eich galw’n bob enw gwael er fy mwyn i. 12Byddwch lawen a gorfoleddus, fe gewch eich gwobrwyo’n dda yn y nefoedd. Fel hyn y cafodd y proffwydi o’ch blaen chi eu herlid.”
Y disgybl a’r byd
13“Chi yw halen y ddaear. Unwaith y cyll yr halen ei flas, sut y gwneir ef yn hallt drachefn? Dyw ef yn dda i ddim nawr ond i’w daflu allan a’i sathru dan draed.
14“Chi yw goleuni’r byd. Allwch chi ddim cuddio dinas sy wedi’i chodi ar ben mynydd. 15Does neb yn cynnau lamp a’i dodi dan lestr mesur, ond ar stand, i roi golau i bawb yn y tŷ. 16Rhaid i chithau, fel y lamp, oleuo ymhlith eich cyd-ddynion, fel pan welon nhw y daioni a wnewch chi y byddan nhw’n rhoi gogoniant i’ch Tad nefol.”
Iesu a’r Gyfraith
17“Peidiwch â meddwl fy mod i wedi dod yma i wneud i ffwrdd â’r Gyfraith na’r proffwydi; nid gwneud i ffwrdd â nhw yw fy mhwrpas i, ond eu cwblhau nhw. 18Credwch chi fi, hyd nes i nef a daear ddiflannu, fydd yr un llythyren na’r mymryn lleiaf o’r Gyfraith yn diflannu cyn bod popeth wedi digwydd. 19Felly, pwy bynnag sy’n torri un o’r gorchmynion hyn — hyd yn oed y lleiaf i gyd — ac yn dysgu eraill i wneud felly, fe fydd yn cael ei gyfrif leiaf yn nheyrnas Nefoedd; ond pwy bynnag sy’n cadw’r gorchmynion, ac yn dysgu eraill i’w cadw, fe fydd ef yn cael ei gyfrif yn fawr yn nheyrnas Nefoedd. 20Fe ddyweda i hyn wrthych chi: os na fyddwch chi’n llawer gwell dynion nag athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid, ewch chi fyth i deyrnas Nefoedd.”
Yn y meddwl y mae’r drwg
21“Fe glywsoch beth a ddywedwyd wrth ein cyndadau: ‘Na ladd. Fe fydd yn rhaid i bob llofrudd sefyll ei brawf.’ 22Dweud rydw i wrthych chi: fe fydd yn rhaid i bawb sy’n magu dig yn erbyn ei frawd sefyll ei brawf. Os bydd iddo ddirmygu’i frawd fe fydd rhaid iddo ateb am hynny yn y llys; os bydd iddo ei alw’n ffŵl, fe fydd hynny’n ddigon i’w yrru i’r uffern danllyd.
23“Os cofia di’n sydyn wrth ddod â’th rodd at yr allor fod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, 24gad dy rodd yn y fan wrth yr allor, dos oddi yno ar d’union; yn gyntaf rho bethau’n iawn rhyngot ti a’th frawd, ac yna tyrd yn ôl i gynnig dy rodd.
25“Os daw rhywun ag achos yn dy erbyn, gwna delerau ag ef ar unwaith ar y ffordd i’r llys, neu fe all dy roi di yn llaw’r barnwr, ac yntau dy roi di yn llaw’r plismon, a’th fwrw i garchar. 26Cred fi: unwaith yr ei di i mewn ddoi di ddim allan cyn iti dalu’r ffyrling olaf.
27“Fe glywsoch beth a ddywedwyd, ‘Na wna odineb’. 28Ond yr hyn a ddywedaf fi wrthych chi yw hyn: fod pob dyn sy’n llygadu merch mewn blys wedi gwneud godineb â hi’n barod yn ei feddwl.
29“Os yw dy lygad de’n dy arwain ar gyfeiliorn, tyn ef allan a thafla ef i ffwrdd; gwell iti golli un o’th aelodau nag i’th gorff i gyd gael ei daflu i uffern. 30Ac os yw dy law dde’n dy arwain ar gyfeiliorn, tor hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith; gwell iti golli un o’th aelodau nag i’th gorff i gyd fynd i uffern.
Priodas yn gysegredig
31“Fel hyn y dywedid gynt, ‘Pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig, rhoed iddi dystysgrif ysgariad.’ 32Ond dweud rydw i wrthych chi: fod pwy bynnag sy’n ysgaru’i wraig, heblaw oblegid ei hanffyddlondeb iddo, yn ei gwneud hi’n anffyddlon; a bod pwy bynnag sy’n priodi gwraig wedi’i hysgar felly yn gwneud godineb.”
Gonestrwydd ymadrodd
33“Yna eto, fe glywsoch mai fel hyn y dywedid wrth bobl ’slawer dydd: ‘Peidiwch â mynd yn ôl ar eich llw,’ a ‘cedwch bob llw a wnaed i’r Arglwydd’. 34Ond dyma a ddywedaf fi wrthych chi: Paid â thyngu llw o gwbl — yn enw’r nef, o achos gorsedd Duw yw, 35nac yn enw’r ddaear, am mai hi yw ei droedfainc ef, nac yn enw Jerwsalem, am mai dinas y Brenin mawr yw hi; 36nac wrth dy ben, gan na elli di ddim troi blewyn yn wyn neu yn ddu. 37Mae ‘Ie’ neu ‘Nage’ syml yn llawn digon; yr un drwg sy tu ôl i bopeth dros ben hynny.
Gwahardd dial
38“Fe glywsoch ddweud: ‘Llygad am lygad a dant am ddant’. 39Ond fel hyn y dywedaf fi wrthych chi: Peidiwch â gwrthwynebu’r dyn sy’n gwneud drwg i chi. 40Tybiwch fod rhywun yn eich taro ar y foch dde. Cynigiwch y llall iddo hefyd. Tybiwch fod rhywun yn mynd i gyfraith â chi er mwyn eich crys, gedwch iddo gael eich côt hefyd. 41Tybiwch fod rhywun mewn awdurdod yn eich gorfodi i fynd un filltir gydag ef, ewch ddwy gydag ef. 42Rhowch pan ofynnir ichi, a pheidiwch ag osgoi’r sawl sydd am gael benthyg gennych chi.”
Caru gelyn
43“Fe glywsoch beth a ddywedwyd: ‘Câr dy gymydog, casâ dy elyn.’ 44Ond fel hyn y dywedaf fi wrthych chi: Cerwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid; 45fel y gellwch chi fod yn blant i’ch Tad nefol, sy’n peri i’w haul godi ar ddrwg a da fel ei gilydd, ac yn anfon glaw ar y gonest a’r anonest. 46Pa wobr gewch chi am garu’n unig y sawl sy’n eich caru chi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi’n gwneud cymaint â hynny? 47Os eich brodyr yn unig rydych yn eu cyfarch â ‘Dydd da’, beth sy’n arbennig yn hynny? Onid yw’r paganiaid yn gwneud cystal â hynny? 48Byddwch chi felly yn berffaith, fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.”

Currently Selected:

Mathew 5: FfN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in