YouVersion Logo
Search Icon

Marc 5:21-43

Marc 5:21-43 DAW

Wedi i Iesu a'r disgyblion groesi nôl yn y cwch, casglodd tyrfa fawr ato ar lan y môr. Roedd Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn eu plith. Pan welodd e Iesu, syrthiodd o'i flaen ac ymbil arno, “Mae fy merch fach ar fin marw. Tyrd draw gyda fi a dod dy ddwylo arni, er mwyn iddi gael gwella.” Aeth Iesu gydag e. Roedd tyrfa fawr o gwmpas Iesu, ac yn eu plith roedd gwraig a fu'n dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd. Roedd hi wedi derbyn triniaeth boenus a chostus gan nifer o feddygon ac wedi gwario'r cyfan oedd ganddi, ond heb wella dim. Erbyn hyn roedd ei hiechyd wedi gwaethygu. Roedd hi wedi clywed sôn am Iesu. Felly, daeth o'r tu cefn iddo a chyffwrdd â'i wisg, am ei bod wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad, caf fy ngwella.” Yn y man peidiodd ei gwaedlif, a gwyddai ei bod wedi ei gwella. Yr un pryd teimlodd Iesu fod rhyw nerth wedi ei adael. Trodd at y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” Atebodd ei ddisgyblion, “Rwyt ti'n gweld y dyrfa yn dy wasgu, ac eto rwyt ti'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddod â mi?’ ” Parhaodd Iesu i chwilio am yr un a gyffyrddodd ag ef. Daeth y wraig ato mewn gofid ac ofn, gan wybod beth oedd wedi digwydd iddi. Syrthiodd o'i flaen a dwedodd yr holl hanes wrtho. Dwedodd Iesu, “Fy merch, dy ffydd sy wedi dy wella di. Dos mewn tangnefedd a bydd iach.” Tra roedd Iesu'n siarad, daeth rhai o dŷ Jairus a dweud, “Mae dy ferch wedi marw; pam rwyt ti'n poeni'r Athro bellach?” Anwybyddodd Iesu'r neges a dwedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni; dal i gredu.” Yna, dewisodd e Pedr, Ioan a'i frawd Iago i fynd gydag ef. Daethon nhw at y tŷ a gwelodd Iesu fod cynnwrf yno a rhai'n wylo'n ddi‐baid. Ar ôl mynd i mewn i'r tŷ gofynnodd Iesu, “Pam rydych chi'n wylo? Dydy'r plentyn ddim wedi marw; cysgu mae hi.” Gyda hynny dyma nhw'n dechrau chwerthin am ei ben. Yna anfonodd bawb allan a chymerodd y tad a'r fam, a'r rhai oedd gydag ef, i mewn at y plentyn. Gafaelodd yn ei llaw a dwedodd, “Talitha cŵm”, hynny ydy, “Cod, fy merch i.” Cododd y ferch ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd roedd hi'n ddeuddeng mlwydd oed. Synnodd pawb. Gorchmynnodd Iesu iddyn nhw beidio â sôn am hyn wrth neb, a dwedodd wrthyn nhw am roi bwyd iddi.