YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 6:16-18

Mathew 6:16-18 BCNDA

“A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch â bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb, fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.

Video for Mathew 6:16-18