YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 4

4
Cyhuddiadau'r ARGLWYDD
1Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel.
Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir,
am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir,
2ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata,
godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.
3Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion;
dygir ymaith anifeiliaid y maes,
adar yr awyr hefyd a physgod y môr.
4“Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb;
y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.#4:4 Felly Groeg. Hebraeg, y mae dy bobl fel rhai'n dadlau ag offeiriad.
5Yr wyt yn baglu liw dydd,
a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.
Dinistriaf dy fam;
6difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;
am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;
am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.
7“Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;
trof eu gogoniant yn warth.
8Bwytânt bechod fy mhobl,
ac estyn eu safn at eu drygioni.
9Bydd y bobl fel yr offeiriad;
fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.
10Bwytânt, ond heb eu digoni,
puteiniant, ond heb amlhau,
am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.
11“Y mae puteindra, gwin a gwin newydd
yn dwyn ymaith y deall.
12Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo;
oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd,
troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.
13Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd,
ac yn offrymu ar y bryniau,
o dan y dderwen, y boplysen a'r terebinth
am fod eu cysgod yn dda.
“Am hynny, y mae eich merched yn puteinio
a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.
14Ni chosbaf eich merched pan buteiniant,
na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant,
oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaid
ac yn aberthu gyda phuteiniaid y cysegr.
Pobl heb ddeall, fe'u difethir.
15“Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog.
Peidiwch â mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen,
a pheidiwch â thyngu, ‘Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.’
16Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin;
a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?
17“Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.
18Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra!
Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad â gwarth.
19Clymodd y gwynt hwy#4:19 Hebraeg, hi. yn ei adenydd,
a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.”

Currently Selected:

Hosea 4: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in