1
Eseia 65:24
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.
Compare
Explore Eseia 65:24
2
Eseia 65:17
Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
Explore Eseia 65:17
3
Eseia 65:23
Ni fyddant yn llafurio'n ofer, nac yn magu plant i drallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt, hwy a'u hepil hefyd.
Explore Eseia 65:23
4
Eseia 65:22
ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
Explore Eseia 65:22
5
Eseia 65:20
Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
Explore Eseia 65:20
6
Eseia 65:25
Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd,” medd yr ARGLWYDD.
Explore Eseia 65:25
7
Eseia 65:19
Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod.
Explore Eseia 65:19
Home
Bible
Plans
Videos