1
Eseia 53:5
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.
Compare
Explore Eseia 53:5
2
Eseia 53:6
Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd.
Explore Eseia 53:6
3
Eseia 53:4
Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd— a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.
Explore Eseia 53:4
4
Eseia 53:3
Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur; yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.
Explore Eseia 53:3
5
Eseia 53:7
Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng, ond nid agorai ei enau; arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa, ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr, felly nid agorai yntau ei enau.
Explore Eseia 53:7
6
Eseia 53:10
Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio a gwneud iddo ddioddef. Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.
Explore Eseia 53:10
7
Eseia 53:2
Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn, ac fel gwreiddyn mewn tir sych; nid oedd na phryd na thegwch iddo, na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.
Explore Eseia 53:2
8
Eseia 53:12
Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.
Explore Eseia 53:12
9
Eseia 53:11
Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau.
Explore Eseia 53:11
10
Eseia 53:8
Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu— pwy oedd yn malio am ei dynged? Fe'i torrwyd o dir y rhai byw, a'i daro am drosedd fy mhobl.
Explore Eseia 53:8
11
Eseia 53:9
Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus, a beddrod gyda'r troseddwyr, er na wnaethai niwed i neb ac nad oedd twyll yn ei enau.
Explore Eseia 53:9
Home
Bible
Plans
Videos