Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law,
a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant?
Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol,
a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol,
a'r bryniau mewn clorian?
Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD,
a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?
 phwy yr ymgynghora ef i ennill deall,
a phwy a ddysg iddo lwybrau barn?
Pwy a ddysg iddo wybodaeth,
a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?