1
Eseia 25:1
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
Compare
Explore Eseia 25:1
2
Eseia 25:8
llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
Explore Eseia 25:8
3
Eseia 25:9
Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, “Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu; dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”
Explore Eseia 25:9
4
Eseia 25:7
Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd a daenwyd dros yr holl bobloedd, llen galar sy'n cuddio pob cenedl
Explore Eseia 25:7
5
Eseia 25:6
Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.
Explore Eseia 25:6
YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy
Home
Bible
Plans
Videos