Yna bendithiodd Joseff a dweud:
“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,
y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,
yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg,
bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn.
Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac,
a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear.”