1
Genesis 22:14
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”
Compare
Explore Genesis 22:14
2
Genesis 22:2
“Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.”
Explore Genesis 22:2
3
Genesis 22:12
A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.”
Explore Genesis 22:12
4
Genesis 22:8
Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.
Explore Genesis 22:8
5
Genesis 22:17-18
bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion, a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.”
Explore Genesis 22:17-18
6
Genesis 22:1
Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham.
Explore Genesis 22:1
7
Genesis 22:11
Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.”
Explore Genesis 22:11
8
Genesis 22:15-16
Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham, a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab
Explore Genesis 22:15-16
9
Genesis 22:9
Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed.
Explore Genesis 22:9
Home
Bible
Plans
Videos