1
1 Cronicl 29:11
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.
Compare
Explore 1 Cronicl 29:11
2
1 Cronicl 29:12
Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.
Explore 1 Cronicl 29:12
3
1 Cronicl 29:14
Oherwydd pwy wyf fi a'm pobl i fedru rhoi o'n gwirfodd fel hyn? Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o'th eiddo dy hun y rhoesom iti.
Explore 1 Cronicl 29:14
4
1 Cronicl 29:13
Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus.
Explore 1 Cronicl 29:13
5
1 Cronicl 29:10
Yr oedd y Brenin Dafydd hefyd yn llawen iawn. Bendithiodd yr ARGLWYDD o flaen yr holl gynulleidfa a dweud, “Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
Explore 1 Cronicl 29:10
Home
Bible
Plans
Videos