1
Rhufeiniaid 6:23
Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol
Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Compare
Explore Rhufeiniaid 6:23
2
Rhufeiniaid 6:14
Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, o blegit nid ydych tann y ddeddf eithr tann râs.
Explore Rhufeiniaid 6:14
3
Rhufeiniaid 6:4
Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.
Explore Rhufeiniaid 6:4
4
Rhufeiniaid 6:13
Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw, a [rhoddwch] eich aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
Explore Rhufeiniaid 6:13
5
Rhufeiniaid 6:6
Gan ŵybod hyn ddarfod croes-hoelio ein hên ddyn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.
Explore Rhufeiniaid 6:6
6
Rhufeiniaid 6:11
Felly meddyliwch chwithau hefyd, eich meirw chwi i bechod, a’ch bôd yn fyw i Dduw yng-Hrist Iesu ein Harglwydd.
Explore Rhufeiniaid 6:11
7
Rhufeiniaid 6:1-2
Beth wrth hynny a ddywedwn? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhauo grâs? Na atto Duw: y rhai [ydym yn] feirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw etto ynddo ef?
Explore Rhufeiniaid 6:1-2
8
Rhufeiniaid 6:16
Oni ŵyddoch, mai i bwy bynnac y rhoddwch eich hunain yn weision i vfyddhau, eich bod yn weision i’r hwn yr vfyddhaoch iddo, pwy bynnac ai [yn weision] pechod i farwolaeth, ynte vfydd-dod i gyfiawnder?
Explore Rhufeiniaid 6:16
9
Rhufeiniaid 6:17-18
Ond i Dduw bo’r diolch, gan eich bod [chwi gynt] yn weision pechod, etto vfyddhau o honoch o’ch calonnau i’r ffurf honno o athrawiaeth i’r hon i’ch traddodwyd. A chan eich rhyddhau [chwi] oddi wrth bechod, chwi a wnaethpwyd yn weision cyfiawnder.
Explore Rhufeiniaid 6:17-18
Home
Bible
Plans
Videos